Draw'r wlad, O'r lle'r wy'n dysgwyl llwyr ryddhâd, O law'm gelynion mawr eu brad: Trwy rinwedd gwa'd fy Iesu gwiw, 'D oes gelyn mwy a ddaw i'r lan, I'r hyfryd fan, ar fyr ca'i fyw. Y llen, Sydd rhyngwy'n awr a'r nefoedd wèn, A rwyga Nuw o'r ddae'r i'r nen; I'r wlad uwch ben, 'fe'm harwain ef, Caf ddringo i'm gorphysfa fraf, Sy'n mynwes Naf, o fewn i'r Nef. A byw Ga'i 'n dawel fry heb boen na briw, A'm cynnhes nyth yn nghôl fy Nuw, Lle mae pob rhyw ddiddanwch llawn; Yn rhydd i'r llwch mi rown fy nghnawd, Fyn'd at fy Mrawd yn awr, pe cawn. Mor fawr Yw'r syched sy ar f'enaid 'nawr, Am wel'd dy wedd, O! hyfryd wawr - Boreuddydd tragwyddoldeb pur; Ymado'n rhwydd â châr a ffrynd A wnawn, gael myn'd i'r nefol dir. Bob pryd, Ffarwel i ti, ddaearol fyd, 'Does yma i'w gael ond gwae i gyd: Mae'm trysor drud mewn ninas draw, Mae 'nghalon eisoes gyda'm Brawd, Lle bydd fy nghnawd i maes o law. - - - - - Mae gwlad, I'r hon 'rwy'n dysgwyl cael rhyddhad, O law gelynion mawr eu brad, Trwy rinwedd gwaed yr Iesu gwiw; 'Does gelyn byth a ddaw i lan Yr hyfryd fan ar fyr caf fyw. O doed, Yr hyfryd fore gorau erioed, I'r sawl sy'n dilyn ôl ei droed, Pob ofnau ífoed, darfydded braw; Rho'th gariad im', addfwynaf Oen, Mi garaf son am ddydd a ddaw.William Williams 1717-91
Tonau [288.888]: gwelir: Mae mae (Y dydd yn d'od i'r duwiol rai) Mae mae (Yr amser hyfryd yn nesâu) Y groes (Yw etifeddiaeth fawr fy oes) Y llen (Sydd rhyngwy'n awr a'r nefoedd wen) |
Yonder is the land, From which I await complete freedom, From the hand of my enemies of great treachery: Through the merit of the blood of my worthy Jesus, No enemy shall come up any more, To the delightful place, where shortly I shall get to live. The curtain That is between me now and bright heaven, My God shall rend from the earth to the sky; To the land overhead, he leads me, I shall get to climb to my good resting-place, That is in the bosom of my Lord, within heaven. And to live Quietly above I may get without pain or bruise, With my warm nest in the bosom of my God, Where is every kind of full comfort; Freely to the dust I would give my flesh; To go to my Brother now, If I could. How great Is the thirst that is upon my soul now, To see thy countenance, O delightful dawn! - The morn of pure, eternal day; Freely leave relative and friend I would, to get to go to the heavenly country. Every time, Farewell to thee, earthly world, There is nothing to be had here but woe altogether: My precious treasure is in yonder city, My heart is already with my Brother, Where my flesh shall be soon. - - - - - There is a land, Where I am expecting to get freedom, From the hand of enemies of great treachery, Through the merit of the blood of the worthy Jesus; There is no enemy that shall ever come up to The delightful place where I shall shortly get to live. O let the Best ever delightful morning come, To those who are following his footprints, Let all fears flee, let terror perish, Give thy love to me, dearest Lamb, I love the mention of the day to come.tr. 2021 Richard B Gillion |
|